Mae gwyliau'n chwarae rhan enfawr ym mywyd diwylliannol Cymru. Rydym am gefnogi prosiectau sydd wedi meddwl yn ddwys am gynlluniau i ymestyn at gynulleidfaoedd fel y gall y nifer ehangaf o bobl fod yn rhan o'ch digwyddiad.

Rhaid i wyliau sy'n digwydd dro ar ôl tro ddangos y bydd y grant yn cefnogi datblygiad yr ŵyl neu weithgarwch ychwanegol, newydd.

 

Rydym yn awyddus i ariannu:

  • Gwyliau ysbrydoledig sy'n ystyried ffyrdd atyniadol o gysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau dan arweiniad eu gweledigaeth artistig arloesol
  • Gwyliau sydd â hanes o gomisiynu a chyflwyno gwaith newydd a chynnig cyfleoedd i artistiaid a gweithwyr llawrydd o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru
  • Gwyliau â ffocws sy’n digwydd mewn cyfnod penodol gyda rhaglenni bywiog, gwych o ddigwyddiadau a gweithgareddau celfyddydol
  • Gwyliau sy'n dathlu amrywiaeth diwylliannau Cymru
  • Gwyliau sy'n dangos bod ganddynt bresenoldeb lleol cryf sy'n creu ymdeimlad o le neu'n bywiogi tref neu ardal
  • Gwyliau â gweithgarwch allgymorth a chynlluniau clir i ddatblygu cynulleidfa i sicrhau bod yr ystod ehangaf o bobl yn mwynhau'r digwyddiad
  • Rhaglenni sy'n datblygu’n gymunedol, meithrin talent artistig a darganfod yn artistig o’r newydd
  • Gwyliau gydag ymdeimlad o le sy'n dod â chymunedau at ei gilydd

 

 Ni allwn ariannu:

  • Casgliad o ddigwyddiadau unigol heb weledigaeth artistig glir na rhesymeg greadigol
  • Prosiectau nad ydynt yn ystyried sut y byddant yn datblygu sylfaen eu cynulleidfa ac yn ymestyn at y nifer ehangaf o bobl
  • Prosiectau sy'n glanio ynghanol cymuned heb ystyried gweledigaeth a gwaddol hir dymor
  • Gwyliau nad ydynt yn dangos unrhyw ddatblygiad o ran rhaglennu, cyrhaeddiad neu ddyhead