Am Ysgogwr y Gymraeg

Mae Ysgogwr y Gymraeg yn rôl newydd; crëwyd i gynorthwyo sector y celfyddydau i ddatblygu gweithredoedd i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn eu gwaith a datblygu dulliau dychmygus ac atyniadol i gynorthwyo Cyngor y Celfyddydau a rhanddeiliaid allweddol i feddwl a gweithredu’n wahanol mewn perthynas ag agenda’r Gymraeg. Bydd Ysgogwr y Gymraeg yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor y Celfyddydau, ei staff, a’i rhanddeiliaid allweddol i gysylltu’r sector datblygu iaith Gymraeg a sector y celfyddydau i gyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.

 

“Dwi’n teimlo braint enfawr i allu cyfrannu tuag at ddyfodol creadigol Cymru. Trwy drafod a datblygu syniadau a phartneriaethau efo artistiaid a sefydliadau dwi’n gallu gweld yn ddi-oed sut mae fy nghyfraniad i tuag at ein strategaethau yn helpu cymunedau ledled y wlad cymryd camau positif ac adeiladol i drawsnewid bywyd cyhoeddus creadigol.” Henry, Swyddog Datblygu

Amdanoch chi

Yn gyntaf oll, bydd gennych wybodaeth a brwdfrydedd dros y Gymraeg. Byddwch yn gallu meddwl yn greadigol ac yn ddychmygus wrth ddatblygu dulliau newydd a ffyrdd o sicrhau newid mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg, a byddwch yn gallu ysbrydoli pobl i gofleidio’r Gymraeg trwy fod yn eiriolwr atyniadol a chalonogol.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch fynegiant o ddiddordeb, CV a Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal i AD@celf.cymru

Gellir cyflwyno mynegiadau o ddiddordeb mewn ffurf Word neu PDF, fel nodyn llais neu fideo. Os ydych chi’n cyflwyno nodyn llais neu fideo, cadwch at uchafswm o 10 munud.

Dylai eich mynegiant o ddiddordeb ddweud wrthym pam fod gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon, sut y byddech yn mynd at y gwaith, a pa brofiad, gwybodaeth neu ddealltwriaeth sydd gennych chi o’r meini prawf hanfodol a restrir yn adran ‘gwybodaeth, profiad a nodweddion’ y disgrifiad swydd.

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Oherwydd natur y rôl benodol hon, mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) hyd at Lefel 3 o leiaf yn hanfodol ar gyfer y rôl. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac  i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Dyddiad cau:                         12:00 canol dydd, dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2021 

Cyfweliadau (dros fideo):    Yr wythnos o 19 Gorffennaf 2021

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. Am ragor o fanylion ewch i https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

 

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cyfnod penodol hyd at fis Mawrth 2024

Gradd D: Cyflog cychwynnol o £37,957

Lleoliad: Fel arfer gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Rydym yn gweithio o gartref ar hyn o bryd.

Dogfen15.06.2021

Pecyn dogfennau swydd Ysgogwr y Gymraeg