Cyngor Celfyddydau Cymru | Ynglŷn â Biennale Fenis
Ynglŷn â Biennale Fenis

Ynglŷn â Biennale Fenis

Prif ŵyl ryngwladol y celfyddydau gweledol yw Biennale Fenis.

Bedwyr Williams - The Starry MessengerSefydlwyd hi ym 1895 ac erbyn heddiw mae dros 472,000 o bobl yn mynd yno gyda 30,000 o guraduron, beirniaid, casglwyr ac artistiaid rhyngwladol allweddol a chynrychiolwyr gwleidyddol a diwylliannol i'r Vernissage (rhagolwg cyn yr agoriad swyddogol) sy'n parhau am dridiau yn unig. Mae'r Biennale yn digwydd ar ddau safle swyddogol yn Fenis: yr Asenale (yr Arfdy) sy'n cynnwys yr arddangosfa ryngwladol a'r Giardini di Castello (Gerddi'r Castell) yn nwyrain y ddinas, sy'n cynnwys y pafiliynau cenedlaethol hanesyddol.

Roedd 88 o bafiliynau cenedlaethol yno yn 2013, deg am y tro cyntaf; Angola, y Bahamas, Teyrnas Bahrain, Arfordir Ifori, Gweriniaeth Cosofo, Ciwait, y Maldifau, Paragwai, Twfalw a'r Babaeth.

Trefnir digwyddiadau cyfochrog sy'n cael eu dewis gan Gyfarwyddwr y Biennale gan gyrff a sefydliadau dielw cenedlaethol a rhyngwladol. Cafodd 48 o ddigwyddiadau cyfochrog eu dewis i'w cynnal ar draws y ddinas yn 2013, gan gyfoethogi amrywiaeth y lleisiau sy'n nodweddu Biennale Fenis.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245