Cyngor Celfyddydau Cymru | Sut i gyrraedd
Sut i gyrraedd

Sut i gyrraedd

Santa Maria Ausiliatrice, Fondamenta San Gioachin, 30122 Venezia

13 Mai – 26 Tachwedd 2017

Oriau Agor i'r Cyhoedd

13 Mai – 27 Tachwedd
10:00 – 18:00
Ar gau ar ddydd Llun

Mynediad am ddim

Hen gwfant sydd nawr yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol yw’r Santa Maria Ausiliatrice. Mae Cymru yn defnyddio’r hen gapel a nifer o stafelloedd eraill yn yr adeilad.

Wedi ei leoli hanner ffordd rhwng prif safleoedd y Biennale yn y Giardini a’r Arsenale mae’r Santa Maria Ausiliatrice yn hygyrch ac yn hawdd iawn i’w ganfod ar y Fondamenta San Gioachin sydd ar ben uchaf stryd lydan y Via Garibaldi.



Sut i gyrraedd y Santa Maria Ausiliatrice

1. O Linellau Vaporetto 1, 41/42 Glanfa Arsenale.

Cerddwch dros y bont i’r dde i Riva S. Biagio. Trowch i’r chwith a cherdded i ddiwedd Via Guiseppe Garibaldi. Mae hon yn stryd gerdded lydan oherwydd i’r canal gael ei sychu a phafin ei osod. Pan gyrhaeddwch ben y stryd lle mae’r canal y ail-ymddangos cadwch i’r chwith, dros un bont fechan a mae’r Ludoteca ar y chwith ar Fondamenta San Gioacchino.


2. Llinellau Vaporetto 1, 2, 41/42, 51/52, 61/62 Glanfa Giardini.

Cerddwch ar eich union drwy’r parc ar hyd Viale Garibaldi sy’n dod a chi i ben Via Garibaldi. Wrth y gamlas (Rio di S. Anna) cadwch i’r chwith ar hyd Fondamenta San Gioacchino ac mae’r Santa Maria Ausiliatrice ar y chwith.

Mae’r prif lwybr troed o’r Giardini i’r Arsenale, neu o’r Arsenale i’r Giardini yn dilyn yr un trywydd


Edrychwn ymalen i’ch croesawu i’r arddangosfa!

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245