Mae gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data.
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae hawl gan unigolyn i wneud cais am unrhyw wybodaeth bersonol sy'n gysylltiedig â hwy ac a ddelir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Gwneud Ymholiad
Os hoffech weld eich gwybodaeth bersonol a ddelir gan Gyngor y Celfyddydau, ysgrifennwch at:
Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Chydymffurfiaeth
Cyngor Celfyddydau Cymru
Plas Bute
Caerdydd
CF10 5AL
Gallwch anfon eich cais dros yr ebost hefyd at gwybodaeth@celf.cymru gan nodi ei fod at sylw'r Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Chydymffurfiaeth.
Dylai eich cais gynnwys cyfeiriad cyswllt - caniateir cyfeiriadau ebost - a thystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi (e.e copi o'ch trwydded yrru, pasbort neu dystysgrif geni).
Dylech hefyd ddarparu cymaint o fanylion â phosibl am y wybodaeth yr hoffech ei chael, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y credwch y byddai o ddefnydd i'ch adnabod (er enghraifft, pryd y buoch yn gweithio gyda ni ac ym mha adran).